MSc

Arloesedd Cynnyrch ac Entrepreneuriaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r radd MSc mewn Arloesedd Cynnyrch ac Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i chynllunio i apelio at unrhyw un o unrhyw ddisgyblaeth sydd eisiau datblygu eu sgiliau a'u hyder wrth fasnacheiddio eu syniadau. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau rhagorol ym meysydd arloesi, entrepreneuriaeth a rheolaeth, a byddwch yn dysgu sut i reoli, creu a darparu gwerth o arloesedd cynnyrch. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi meithrin dealltwriaeth fanwl o sut i greu gwahaniaethu masnachol a llwyddo i sicrhau buddsoddiadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Normally, an undergraduate degree at 2:2 or above. However. Candidates with HND + significant and appropriate experience may be allowed to entre the programme. Each applicant will be dealt with on a case by case basis.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r MSc Arloesedd Cynnyrch ac Entrepreneuriaeth yn canolbwyntio ar feithrin y sgiliau hanfodol sy'n hwyluso masnacheiddio syniadau cynnyrch a chaffael cefnogaeth ariannol. Byddwch yn dysgu sut i greu timau effeithiol a datblygu cynlluniau busnes a all fanylu ar wahaniaethu masnachol cynnyrch yn y farchnad, costau cynnyrch, costau gweithredol a marchnata, a risgiau. 

Bydd y radd hon yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r hyn sy’n batentadwy a sut i ddiogelu eich syniadau. Byddwch yn ymgymryd â modiwlau ym maes arloesedd cynnyrch, buddsoddiadau cyfalaf, marchnata strategol, rheoli prosiectau a systemau’r cadwyni cyflenwi. Ar ôl cwblhau'r modiwlau a addysgir, byddwch yn cwblhau Adroddiad Buddsoddwr ac yn cyflwyno cais am fuddsoddiad asesedig i sicrhau eich bod wedi datblygu'r sgiliau angenrheidiol i'ch galluogi i sicrhau cronfeydd allweddol er mwyn tyfu busnes.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i fyfyrwyr sydd wedi graddio o unrhyw ddisgyblaeth bron. Nid oes angen gwybodaeth dechnegol fanwl mewn unrhyw faes, dim ond ar yr hyn sy’n batentadwy. 

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn.

2-3 blynedd rhan-amser.

Dyddiadau cychwyn ar gael ym mis Ionawr neu fis Medi.

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Economics ABM3120 20
Green Logistics and Supply Chains ABM3320 20
Project Management Tools and Techniques ABM2920 20
Strategic Marketing Management ABM2420 20
Capital Investments EEM0220 20
Investor Report EEM0360 60
Product Innovation EEM0020 20

Modiwlau Dechrau Ionawr - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Economics ABM3120 20
Green Logistics and Supply Chains ABM3320 20
Project Management Tools and Techniques ABM2920 20
Strategic Marketing Management ABM2420 20

Gyrfaoedd

Rydym yn benderfynol y bydd myfyrwyr yn graddio o'r cwrs hwn gyda'r sgiliau allweddol a'r hyder i fasnacheiddio syniadau a llwyddo mewn busnes.

Gall cyfleoedd gyrfa i raddedigion gynnwys:

  • Ymgynghorydd Dylunio Busnes ac Arloesi
  • Ymgynghorydd Menter
  • Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol
  • Rheolwr Gyfarwyddwr
  • Cyfarwyddwr Marchnata
  • Rheolwr Rhaglen
  • Rheolwr Risg
  • Rheolwr Gweithrediadau Busnesau Newydd
  • Ymgynghorydd Strategaeth.

Dysgu ac Addysgu

Bydd MSc Arloesedd Cynnyrch ac Entrepreneuriaeth yn eich arfogiâ dealltwriaeth o'r hyn y mae arloesedd cynnyrch yn ei olygu, sut i'w ddiogelu a sut y gall arloesedd gael effaith os caiff ei reoli a'i ddatblygu’n gywir.

Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn:

  • meithrin sgiliau rheoli rhagorol sy'n angenrheidiol i adnabod, diogelu a rheoli syniadau patentadwy
  • caffael a chyfosod gwybodaeth ac arbenigedd mewn arwyddocâd gwahaniaethu masnachol trwy arloesedd cynnyrch
  • ystyried cysyniadau allweddol mewn logisteg a rheoli'r gadwyn gyflenwi
  • datblygu dealltwriaeth o rôl entrepreneuriaid a buddsoddwyr, a sut i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy'n gwneud y mwyaf o fuddsoddiadau a chydweithrediadau llwyddiannus
  • edrych ar gynllunio busnes a dadansoddi systemau busnes, gan gynnwys cymhwyso cysyniadau economaidd wrth ddarparu datrysiadau i broblemau rheoli
  • meithrin sgiliau rheoli prosiectau a chymhwyso'r technegau hyn i greu cynlluniau prosiect manwl
  • gwerthuso strategaethau ar gyfer rheoli marchnata mewn marchnadoedd defnyddwyr a busnes cystadleuol
  • gwerthuso mecanweithiau cyfathrebu a darparu gwerth mewn marchnadoedd
  • dangos dealltwriaeth fanwl o nodweddion hanfodol cyflwyno cais busnes llwyddiannus i fuddsoddwyr.

Asesu

Mae’r asesu ar ffurf adroddiadau, astudiaethau achos, cyflwyniadau unigol a grŵp, a chyflwyno cais am fuddsoddiad yn arddull Dragons' Den.

|